Problemau diogelwch critigol mewn sawl Dyfais Busnes Bach Cisco

Os ydych chi’n defnyddio un o’r dyfeisiau “VPN, Cisco Small Business” canlynol, daliwch ati i ddarllen! Rydym wedi crynhoi gwybodaeth am broblemau diogelwch critigol y dylwch fod yn ymwybodol ohonynt, a sut i’w datrys.

Grŵp 1

RV160
RV160W
RV260
RV260P
RV260W

Grŵp 2

RV016
RV042
RV042G
RV082
RV320
RV325

Gwybodaeth Grŵp 1

Darganfuwyd diffygion diogelwch critigol yn y grŵp cyntaf o ddyfeisiau. Dylech geisio cywiro’r rhain cyn gynted â phosib trwy lwytho diweddariad meddalwedd, y gallwch chi ddod o hyd iddo yma:

https://software.cisco.com/download/home/286316476/type/282465789/release/1.0.01.02

I’r rhai sydd â meddwl mwy technegol, gellir dod o hyd i fanylion am y diffygion yma:

https://tools.cisco.com/security/center/content/CiscoSecurityAdvisory/cisco-sa-rv160-260-rce-XZeFkNHf

ac yma:

https://tools.cisco.com/security/center/content/CiscoSecurityAdvisory/cisco-sa-rv160-260-filewrite-7x9mnKjn

Gwybodaeth grŵp 2

Darganfuwyd diffygion eraill ychydig yn llai critigol yn y dyfeisiau hyn. Mae Cisco wedi rhyddhau gwybodaeth trwy’r dolenni canlynol sy’n rhoi manylion y camau i’w cymryd:

https://tools.cisco.com/security/center/content/CiscoSecurityAdvisory/cisco-sa-rv-overflow-ghZP68yj

a:

https://tools.cisco.com/security/center/content/CiscoSecurityAdvisory/cisco-sa-rv-command-inject-BY4c5zd

Yn olaf:

Sicrhewch bob amser eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau gan y gwneuthurwr wrth ddiweddaru meddalwedd. Mae risg o wneud dyfais yn amhosibl ei defnyddio pe bai problemau wrth gyflawni’r broses.

Mae hefyd yn bwysig fel y gallwch weld o’r wybodaeth uchod eich bod yn llwytho diweddariadau i’ch dyfeisiau yn rheolaidd, ar gyfer diogelwch yn ogystal â diweddariadau nodwedd.

Os oes angen help arnoch i ddeall y wybodaeth hon a’i goblygiadau, cysylltwch trwy ein tudalen gyswllt a byddwn yn hapus i helpu.

Uwcholeuo Cyfleoedd efo Technoleg